OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 3089 (Cy. 310) (C. 132)
BWYD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym yn llawn adran 2(5)(b) o’r Ddeddf ar 28 Tachwedd 2014 er mwyn estyn y diffiniad o “sefydliad busnes bwyd” i gynnwys sefydliad sy’n cyflenwi bwyd i fusnes arall.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y ddarpariaeth |
Y dyddiad cychwyn |
Rhif O.S. |
Adrannau 3(2), (3)(c) a (d) a (5); 5(4) a (10)(d); 6(2) a (3); 7(3) a (4); 12(2) a (9)(d); a 15(1) |
28 Hydref 2013 (at ddibenion gwneud rheoliadau) |
2013/2617 (Cy. 256) (C. 104) |
Adrannau 1; 2 (ac eithrio paragraff (b) o is-adran (5)); 3 (at y dibenion sy’n weddill); 4; 5, 6 a 7 (at y dibenion sy’n weddill); 8 i 11; 12 (at y dibenion sy’n weddill); 13 a 14; 15 (at y dibenion sy’n weddill); 16 i 26; 28; a’r Atodlen |
28 Tachwedd 2013 |
2013/2617 (Cy. 256) (C. 104) |
|
|
|
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 3089 (Cy. 310) (C. 132)
BWYD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2014
Gwnaed 18 Tachwedd 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau yn adran 27(2) o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013([1]).
Enwi
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2014.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 28 Tachwedd 2014
2. Y diwrnod penodedig i adran 2(5)(b) o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 ddod i rym yw 28 Tachwedd 2014.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2014